P-05-871- Trefnu bod cyfleusterau newid cewynnau ar gael mewn toiledau i ddynion a thoiledau i fenywod
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Antony Esposti, ar ôl casglu – cyfanswm o 125 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Yng
Nghymru, mae llawer o fusnesau, ysbytai a pharciau/safleoedd a
gynhelir gan gynghorau lle nad oes cyfleusterau newid cewynnau ar
gael i ddynion a menywod eu defnyddio. Fel arfer, dim ond mewn
toiledau i fenywod y mae'r cyfleusterau ar gael.
Oherwydd hyn, mae dynion yn aml yn gorfod mynd i chwilio am
gyfleusterau y cânt eu defnyddio neu, ar lawer o achlysuron,
ddefnyddio mesurau dros dro fel newid cewyn ar y llawr, ar ben
caead bin ag olwynion mewn toiledau, cydbwyso'r plentyn ar eu
côl ac ar fainc yn yr awyr agored.
Gofynnwn i'r Cynulliad sicrhau bod pob gwaith adnewyddu yn y
dyfodol ac adeilad newydd mewn mannau sy'n agored i'r cyhoedd
â man diogel a glân i newid cewynnau a galluogi plant
bach i fynd i'r toiled yn ddiogel ac, fel mesur tymor byr, drefnu
bod cyfleuster newid cewynnau ar ffurf bwrdd neu uned
gollwng-i-lawr ar gael.
Gwybodaeth ychwanegol:
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Canol De Cymru